Afonwy Howell-Pryce

Partner, Ewyllysiau a Phrofiant

Graddiodd Afonwy yn y Gyfraith gyda Busnes o Brifysgol Portsmouth yn 2008 cyn cwblhau gradd meistr mewn ymarfer cyfreithiol ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2010.

Cymhwysodd Afonwy fel cyfreithiwr yn 2014 a hyfforddodd gyda chwmni yn Swydd Rydychen. Ar ôl cwblhau ei chontract hyfforddi symudodd i Gaerdydd lle bu’n gweithio mewn cwmni Top 100 yng nghanol dinas Caerdydd. Ymunodd Afonwy â Harding Evans ym mis Awst 2020 lle mae’n gweithio yn swyddfa Caerdydd yn y Tîm Ewyllysiau a Phrofiant.

Mae Afonwy yn arbenigo mewn gweinyddu ystadau ac ymddiriedolaethau ac yn cynghori cleientiaid ar gynllunio ystadau ac Ewyllysiau. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn profiant ac ymddiriedolaethau ac mae’n gweithredu fel ymddiriedolwr proffesiynol.

Mae Afonwy yn aelod llawn o Gymdeithas yr Ymarferwyr Ymddiriedolaeth ac Ystadau (STEP) ac mae’n defnyddio’r dynodiad TEP. Mae STEP yn sefydliad byd-eang ac mae’n cael ei ystyried yn feincnod ar gyfer ymarferwyr cleientiaid preifat. Mae Afonwy hefyd yn aelod cwbl achrededig o Lifetime Laywers (gynt Cyfreithwyr i’r Henoed) – grŵp o gyfreithwyr o’r un anian sy’n arbenigo mewn galluedd meddyliol a chleientiaid agored i niwed.

Mae cleientiaid Afonwy wedi ei disgrifio fel gofalgar a phroffesiynol.

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.