Cyfreithwyr Esgeulustod Meddygon Teulu
Tudalen Cartref » Individual Services » Esgeulustod Clinigol » Esgeulustod Meddygon Teulu
Yn amlach na pheidio, mae meddygon teulu yn gwneud gwaith ardderchog wrth ddiagnosio a thrin cyflyrau. Fodd bynnag, mae yna achlysuron pan nad yw’r camau cywir yn cael eu dilyn. Yn gyffredinol, gall esgeulustod ddod o fewn dau fath: methu â gwneud rhywbeth, neu weithredu mewn ffordd sy’n achosi niwed.
Mae’r camgymeriadau cyffredin y mae meddygon teulu yn eu gwneud yn cynnwys:
Beth bynnag rydych chi’n teimlo bod eich meddyg teulu wedi gwneud, neu wedi methu â gwneud, gall ein cyfreithwyr esgeulustod meddygon teulu yng Nghymru ystyried yr hyn a ddigwyddodd a’ch cynghori ynghylch a oes gennych hawl i hawlio unrhyw iawndal.
Pan fo amheuaeth o ofal meddygol is-safonol a ddarperir gan eich meddyg teulu, efallai y bydd gennych hawl i wneud hawliad. Os oes sail ddilys i geisio iawndal, gall ein tîm o gyfreithwyr esgeulustod clinigol profiadol a chydymdeimladol helpu i gefnogi a’ch tywys chi a’ch
teulu drwy’r broses ymchwilio.
I ganfod a yw hawliad yn bosibl, cysylltwch â’n cyfreithwyr esgeulustod meddygon teulu trwy glicio yma.