Hawliadau Iawndal Damweiniau mewn Man Cyhoeddus
Mae miloedd o bobl yn derbyn anafiadau difrifol bob blwyddyn o faglu, llithro, neu syrthio mewn man cyhoeddus neu ar eiddo rhywun arall. Gall y digwyddiadau hyn ddigwydd ym mhob math o leoedd, ond rydym wedi rhestru’r mwyaf cyffredin isod:
● Siopau a chanolfannau
siopa● Parciau a meysydd chwarae
● Isffyrdd
● Strydoedd/llwybrau
● Bwytai
● Swyddfeydd
● Meysydd parcio
Efallai nad ydych chi’n gwybod pwy sy’n gyfrifol am eich anaf, ond gall ein tîm o arbenigwyr anafiadau personol uchel eu parch helpu. Yn Harding Evans Solicitors, mae ein cyfreithwyr yn arbenigwyr yn yr achosion hyn a byddant yn gweithio’n galed i nodi pwy sydd ar fai a’ch helpu i hawlio’r iawndal y mae gennych hawl iddo am eich anaf personol.
Rydym wedi llwyddo i hawlio miliynau o bunnoedd mewn iawndal i gleientiaid sydd wedi profi damwain mewn man cyhoeddus a gallwn eich helpu chi hefyd. Os ydych wedi cael eich anafu mewn damwain mewn man cyhoeddus, cysylltwch â’n tîm arbenigol heddiw i wneud hawliad.