Yn falch o gefnogi'r gymuned LGBTQ+ gyda chymorth a chyngor cyfreithiol
Yn Harding Evans mae’n bwysig i ni ein bod yn gynhwysol i bawb a’n bod yn croesawu pawb fel unigolyn, fel cleientiaid ac fel cydweithwyr.
Rydym yn falch o allu sefyll wrth ochr y cymunedau LGBTQ+ ledled De Cymru a thu hwnt, trwy ddarparu nid yn unig ein cymorth a chyngor cyfreithiol o ddydd i ddydd, ond hefyd gwasanaethau cyfreithiol sydd wedi’u teilwra’n benodol i anghenion y rhai sy’n uniaethu fel LGBTQ+.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu yn y maes hwn a byddwn yn ychwanegu gwasanaethau ychwanegol wrth i ni ennill mwy o wybodaeth yn y maes cymhleth hwn o’r gyfraith.
Os oes angen unrhyw gyngor arnoch, mae croeso i chi gysylltu â ni.