Tribiwnlysoedd Cyflogaeth ar gyfer Unigolion
CAM 1 – Derbyn Cyfarwyddiadau a Chyngor Cychwynnol
Ar y cam hwn rydym yn cymryd cyfarwyddiadau gennych ar yr achos. Rydym yn adolygu’r papurau ac yn eich cynghori ar rinweddau’r hawliad a’r iawndal tebygol.
CAM 2 – Cymodi Cyn Hawlio
Yn y cam cyn-hawlio mae’n orfodol dilyn gweithdrefn Cymodi Cynnar Acas.
CAM 3 – Paratoi Hawliad
Wedi hynny, os nad yw setliad wedi’i gyrraedd, rydym yn edrych ar baratoi hawliad ar eich rhan.
Trwy gydol y camau hyn a’r camau canlynol rydym yn parhau i archwilio setliad posibl ac ail-werthuso canlyniadau tebygol ac iawndal.
CAM 4 – Paratoi ar gyfer y Gwrandawiad
Wrth baratoi ar gyfer y Gwrandawiad Terfynol, mae ein cyfreithwyr yn archwilio pa ddogfennau y bydd eu hangen arnom i ddatblygu bwndel o ddogfennau. Efallai y bydd gofyn i ni fynychu Gwrandawiad Rhagarweiniol i ateb unrhyw ymholiadau cychwynnol y gall y barnwr gael ynglŷn â’r achos.
Mae angen i ni hefyd gymryd datganiadau tystion. Gall y mathau hyn o dasgau ychwanegu mwy o gymhlethdod i’r achos a chynyddu’r amcangyfrif amser a amlinellir yma.
CAM 5 – Gwrandawiad
TerfynolMae ein cyfreithwyr yn paratoi ar gyfer ac yn mynychu’r Gwrandawiad Terfynol, a all gynnwys rhoi cyfarwyddiadau i’r Cwnsler i weithredu ar eich rhan.