Bydd Hannah Thomas ac Afonwy Howell-Price, Uwch Gymdeithion yn ein tîm Ewyllysiau a Phrofiant, yng Nghartref Gofal newydd Llys Herbert yn Llys-faen ddydd Iau 25Mai rhwng 2pm a 4pm, yn trafod pwysigrwydd Pŵer Atwrnai Parhaol ac yn ateb cwestiynau am y pwnc.
Mae Pŵer Atwrnai Parhaol (LPA) yn ddogfen gyfreithiol sy’n eich galluogi i benodi rhywun (a elwir yn eich Atwrnai) i wneud penderfyniadau i chi os byddwch chi’n colli gallu naill ai’n gorfforol neu’n feddyliol yn y dyfodol.
Trwy gynllunio ymlaen llaw, gallwch gymryd rheolaeth a dewis pwy rydych chi’n ymddiried ynddo i wneud penderfyniadau pwysig am eich iechyd, eich gofal a’ch cyllid ar eich rhan.
Bydd y sesiwn hefyd yn trafod ariannu gofal hirdymor i chi’ch hun neu anwylyd, gyda Inspiration Wealth Management (SOLLA) hefyd yn cyflwyno.
Os hoffech fynychu, cysylltwch â Jenny Ashton, Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid yn Llys Herbert ar 029 2168 1608, neu cliciwch yma i anfon e-bost. Gallwch lawrlwytho copi o’r gwahoddiad yma.
Os hoffech ragor o wybodaeth am unrhyw un o’n Gwasanaethau Ewyllysiau a Phrofiant, cliciwch yma i gysylltu â’r tîm.