Cyngor proffesiynol pan mae'n bwysig fwyaf
Rydym yn gweithredu ar ran nifer o unigolion sydd naill ai’n dechrau neu sydd wedi sefydlu gyrfa chwaraeon broffesiynol ac eisiau cyngor cyfreithiol o’r radd flaenaf yn ogystal ag arweiniad a chefnogaeth ar faterion ehangach fel goblygiadau treth.
Rydym yn gwybod bod cyfrinachedd yn sylfaenol i’r berthynas cyfreithiwr / cleient ond byth yn fwy felly nag wrth weithredu ar ran cleientiaid y mae eu proffil cyhoeddus yn denu sylw’r cyfryngau.
Mae llawer o’n gweithwyr proffesiynol chwaraeon yn buddsoddi yn eu dyfodol ariannol iddyn nhw eu hunain a’u teuluoedd y tu hwnt i’w gyrfaoedd presennol trwy brynu eiddo neu sefydlu mentrau masnachol. Gallwn eu helpu i wneud y penderfyniadau buddsoddi a datblygu cywir trwy gefnogi’r penderfyniadau hynny gyda chyngor cyfreithiol cadarn.
Er enghraifft, rydym yn cynghori’n gryf pob person chwaraeon proffesiynol, yn enwedig lle maent yn caffael eiddo am y tro cyntaf, i wneud Ewyllys cyn ei gwblhau i sicrhau eu bod yn cynllunio ar gyfer unrhyw ddigwyddiad annisgwyl yn y dyfodol.
Cysylltwch â’n tîm arbenigol heddiw.