
Rydym wrth ein bodd yn croesawu William i dîm Harding Evans fel Paragyfreithiwr yn ein hadran Cyfraith Teulu a Materion Priodasol.
Ar ôl astudio Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd, aeth William ymlaen i gwblhau’r Diploma i Raddedigion yn y Gyfraith (Graduate Diploma in Law), gan raddio yn 2024. Cyn ymuno â Harding Evans, bu’n gweithio fel Paragyfreithiwr yng Nghaerwrangon, ac mae bellach yn ymuno â’n tîm sy’n tyfu wrth iddo barhau â’i yrfa gyfreithiol.
Dywedodd Leah Thomas, Pennaeth Cyfraith Teulu a Materion Priodasol: “Rydym wrth ein bodd yn croesawu Will i’n tîm. Bydd ei gefnogaeth, ei frwdfrydedd a’i ymrwymiad i helpu cleientiaid yn ased gwirioneddol i’r adran, ac rydym yn falch iawn o’i gael yn rhan o’r tîm. Ymunwch â ni i roi croeso cynnes iddo!”
Ychwanegodd William: “Rwy’n gyffrous i ymuno â chwmni sy’n tyfu, sydd ag enw rhagorol a diwylliant gwirioneddol gyfeillgar. Rwy’n gobeithio datblygu cymaint o sgiliau â phosibl a dysgu o brofiad y cyfreithwyr o’m cwmpas, gyda’r nod o gymhwyso’n gyfreithiwr yn y pen draw.”
Y tu allan i’r swyddfa, mae William yn mwynhau cadw’n heini drwy chwarae rygbi, beicio, sgïo a cherdded mynyddoedd. Mae hefyd yn deithiwr brwd, yn siarad Almaeneg yn rhugl ac ar hyn o bryd yn dysgu Tsieinëeg Mandarin ac Arabeg. Mae’n mwynhau cerddoriaeth fyw ac roedd hefyd yn cystadlu mewn dadlau drwy gydol ei gyfnod yn yr ysgol a’r brifysgol.
Am un noson yn unig, cyfnewidiodd fyd y gyfraith am lwyfan y catwalk pan gamodd i’r adwy fel model ar fyr rybudd ar gyfer sioe ffasiwn gynaliadwy Prifysgol Caerdydd. Er mai byrhoedlog oedd ei yrfa fodelu, mae William yn dweud iddo ymddeol o fyd ffasiwn uchel cyn cyrraedd statws Derek Zoolander!
Croeso i Dîm HE, William!