
Ar 5 Mehefin 2026, lansiodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ei hymgynghoriad, ‘Diwedd Tecach i Berthnasoedd’, gan gynnig newidiadau sylweddol i’r ffordd y mae’r gyfraith yng Nghymru a Lloegr yn ymdrin â chanlyniadau ariannol perthynas yn chwalu, gwahanu a marwolaeth. Mae’r ymgynghoriad yn adlewyrchu’r gydnabyddiaeth gynyddol fod bywyd teuluol wedi newid, gyda mwy o gyplau nag erioed yn dewis byw gyda’i gilydd heb briodi na chofrestru partneriaeth sifil. Mae Leah Thomas, Pennaeth ein tîm Cyfraith Teulu, a Hannah Thomas, Partner yn ein tîm Ewyllysiau a Phrofiant, wedi dod ynghyd i egluro beth allai’r diwygiadau arfaethedig hyn ei olygu i gyplau sy’n cyd-fyw, yn ystod eu hoes ac ar ôl marwolaeth.
I gyplau sy’n cyd-fyw, gallai’r cynigion hyn fod yn arbennig o bwysig. Er gwaethaf y gred gyffredin ond anghywir ynghylch “priodas cyfraith gwlad”, nid yw byw gyda’i gilydd ar hyn o bryd yn rhoi’r un hawliau cyfreithiol â phriodas neu bartneriaeth sifil. Gall hyn adael unigolion yn agored i anawsterau os daw’r berthynas i ben, a gall hefyd greu ansicrwydd sylweddol os bydd un partner yn marw heb wneud Ewyllys.
Beth yw’r Sefyllfa Gyfreithiol Bresennol ar gyfer Cyplau sy’n Cyd-fyw?
Ar hyn o bryd, mae’r sefyllfa gyfreithiol yn aml yn cael ei chamddeall. Os bydd cwpl nad ydynt yn briod yn gwahanu, nid oes gan y naill bartner na’r llall hawl awtomatig i gyfran o eiddo, cynilion neu bensiwn y llall, nac i hawlio cynhaliaeth iddynt eu hunain dim ond am eu bod wedi byw gyda’i gilydd. Fel arfer, mae hawliadau’n dibynnu ar egwyddorion llym cyfraith eiddo, tystiolaeth o gyfraniadau a bwriad y cwpl, a gall fod yn anodd, yn gostus ac yn ansicr profi’r rhain. Gall hyn arwain at galedi gwirioneddol, yn enwedig lle mae un partner wedi rhoi’r gorau i ennill incwm, wedi dibynnu’n ariannol ar y llall, neu lle mae plant yn gysylltiedig.
Gall y sefyllfa ar ôl marwolaeth fod yr un mor llym. Os bydd rhywun yn marw heb Ewyllys ddilys, nid oes gan ei bartner unrhyw hawl awtomatig i etifeddu o dan reolau marw heb Ewyllys (intestacy), hyd yn oed os ydynt wedi byw gyda’i gilydd ers blynyddoedd lawer neu os oes ganddynt blant gyda’i gilydd. Gall partner sy’n goroesi fod yn gymwys i wneud hawliad o dan Ddeddf Etifeddiant (Darpariaeth ar gyfer Teulu a Dibynyddion) 1975, ond fel arfer bydd hynny’n golygu cychwyn achos cyfreithiol ar adeg pan fo’r teulu eisoes yn ymdopi â’u profedigaeth.
Beth Mae’r Ymgynghoriad yn Ceisio ei Newid?
Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn ynghylch a ddylai pobl gymwys sy’n cyd-fyw gael mwy o ddiogelwch cyfreithiol, yn achos perthynas yn chwalu ac ar ôl marwolaeth un partner. O ran gwahanu, mae’r Llywodraeth yn ystyried cyflwyno fframwaith statudol newydd ar gyfer cyplau sydd mewn perthynas barhaus, fel arfer ar ôl tair blynedd o fyw gyda’i gilydd, neu heb unrhyw gyfnod cymhwyso lle mae plentyn yn gysylltiedig. Byddai’r cynllun arfaethedig yn gymwys yn awtomatig i gyplau sy’n bodloni’r meini prawf, oni bai eu bod yn dewis peidio â chymryd rhan. Fodd bynnag, ni fyddai’n adlewyrchu’r gyfraith sy’n gymwys i ysgariad. Yn hytrach, ei fwriad yw gweithredu fel rhwyd ddiogelwch fwy cyfyngedig, yn seiliedig ar anghenion, gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i anghenion plant.
Pe bai’r diwygiadau’n cael eu cyflwyno, gallai’r llys wneud gorchmynion mewn perthynas â chyfalaf, incwm, tai a phensiynau. Fodd bynnag, byddai’r pwyslais yn parhau ar ddiwallu anghenion penodol yn hytrach na rhannu’r holl asedau’n gyfartal. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn cynnig cyflwyno terfyn amser, gan olygu y byddai’n rhaid cyflwyno unrhyw hawliad o fewn dwy flynedd i’r dyddiad gwahanu. Mae hyn yn golygu y gallai pobl sy’n cyd-fyw gael mwy o ddiogelwch cyfreithiol, ond byddai’r diwygiadau’n parhau i gynnal gwahaniaeth clir rhwng cyd-fyw a phriodas.
O ran marwolaeth, mae’r ymgynghoriad hefyd yn ystyried a ddylai pobl gymwys sy’n cyd-fyw gael hawliau etifeddu awtomatig pan fydd partner yn marw heb wneud Ewyllys. Byddai hyn yn newid sylweddol i’r gyfraith. Mae cynllunio olyniaeth yn aml yn seiliedig ar y sefyllfa gyfreithiol bresennol: gall unigolion adael asedau i blant o berthnasau blaenorol, defnyddio ymddiriedolaethau i ddiogelu cyfoeth y teulu, neu dybio na fydd gan bartner nad yw’n briod unrhyw hawl awtomatig i hawlio o’u hystâd. Gallai unrhyw ddiwygiad newid y trefniadau hynny ac arwain at fwy o anghydfodau lle mae natur, hyd neu amgylchiadau ariannol y berthynas yn aneglur.
I ysgutorion a chynrychiolwyr personol, gallai’r goblygiadau ymarferol hefyd fod yn sylweddol. Gallai gweinyddu ystadau ddod yn fwy cymhleth pan fo gan bartner sy’n goroesi a buddiolwyr eraill ddisgwyliadau sy’n gwrthdaro. Mae hyn yn arbennig o berthnasol mewn teuluoedd estynedig neu ailgyfansoddedig (blended families), lle gall fod angen sicrhau cydbwysedd gofalus rhwng anghenion partner, plant ac aelodau ehangach o’r teulu.
Mae’r ymgynghoriad yn dod i ben ar 14 Awst 2026, ac mae’n debygol y bydd unrhyw newidiadau yn cymryd amser i’w gweithredu. Serch hynny, mae’r cyfeiriad yn glir: mae disgwyl i’r gyfraith ymateb i realiti perthnasoedd modern. I gyplau sy’n cyd-fyw, mae hyn yn atgoffa’n amserol na ddylent ddibynnu ar ragdybiaethau ynghylch yr hyn y bydd y gyfraith yn ei wneud.
Beth Gall Cyplau sy’n Cyd-fyw ei Wneud?
Y cam pwysicaf yw cynllunio nawr. Gall Cytundeb Cyd-fyw sydd wedi’i ddrafftio’n briodol gofnodi pwy sy’n berchen ar beth, sut y caiff cyfraniadau at y cartref a chyllid eu trin, a beth ddylai ddigwydd os daw’r berthynas i ben. Mae’n parhau i fod yn un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o sicrhau eglurder a sicrwydd o dan y gyfraith bresennol, ac mae’n debygol y bydd yn parhau’n bwysig hyd yn oed os caiff y diwygiadau arfaethedig eu cyflwyno.
Ar yr un pryd, mae gwneud Ewyllys a’i hadolygu’n rheolaidd yn hanfodol. Mae Ewyllys yn eich galluogi i benderfynu pwy ddylai etifeddu eich ystâd, diogelu partner lle bo’n briodol, gwneud darpariaeth ar gyfer plant, a lleihau’r risg o anghydfodau ar ôl marwolaeth. I gyplau sydd â phlant o berthnasau blaenorol, eiddo sy’n eiddo ar y cyd, cyfraniadau ariannol anghyfartal neu drefniadau teuluol cymhleth, mae cael cyngor arbenigol yn arbennig o bwysig.
Gallwn Helpu…
Boed mai gwahanu neu olyniaeth yw’r pryder, mae’r neges yr un fath: peidiwch ag aros i’r gyfraith newid cyn rhoi eich trefniadau eich hun mewn trefn. Os ydych yn byw gyda’ch partner ac eisiau eglurder ynghylch eich hawliau, eich cyfrifoldebau a’ch cynllunio ar gyfer y dyfodol, cysylltwch â’n timau Cyfraith Teulu ac Ewyllysiau a Phrofiant.