27th February 2024  |  Newyddion  |  Ymchwiliad Covid Cymru

Ymchwiliad Covid y DU ar y gweill yng Nghaerdydd

Mae Ymchwiliad Covid y DU yn eistedd yng Nghaerdydd ar gyfer Gwrandawiadau Statudol Modiwl 2b.

Mae Ymchwiliad Covid y DU wedi cyrraedd Caerdydd ar gyfer Modiwl 2b. Bydd Modiwl 2B yn archwilio penderfyniadau grwpiau ac unigolion allweddol o fewn y llywodraeth yng Nghymru, gan gynnwys y Prif Weinidog a Gweinidogion eraill Cymru.

Bydd y gwrandawiadau cyhoeddus i’r modiwl hwn yn cael eu cynnal yng Nghymru rhwng 27 Chwefror 2024 a 14 Mawrth 2024.

Lleoliad gwrandawiad y modiwl hwn fydd Gwesty Mercure Cardiff North, Circle Way East, Llanedern, Caerdydd CF23 9XF. Os hoffech fynychu, bydd angen archebu sedd yn yr oriel gyhoeddus. Gallwch archebu lle (yn amodol ar argaeledd) trwy wefan yr Ymchwiliad. Sylwer, nid yw’r Ymchwiliad yn disgwyl sefyll ddydd Gwener8 Mawrth 2024.

Fel bob amser, gallwch wylio’r gwrandawiadau yn fyw ar sianel YouTube yr Ymchwiliad, trwy glicio yma.

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.