Mae Sparkle yn cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae’n elusen swyddogol Canolfan Plant Serennu yng Nghasnewydd, Canolfan Plant Neuadd Nevill yn y Fenni, a Chanolfan Plant Caerffili.
Yr egwyddor arweiniol ar gyfer Sparkle yw sicrhau bod plant a phobl ifanc ag anableddau a / neu anawsterau datblygiadol, a’u teuluoedd, yn cael eu cefnogi’n llawn ac yn gallu cymryd rhan mewn profiadau plentyndod gwerthfawr, gyda mynediad i’r un ystod o gyfleoedd, profiadau bywyd, gweithgareddau a gwasanaethau hamdden ag unrhyw blentyn arall a’u teulu.
Mae gan Harding Evans Solicitors dros 90 o weithwyr wedi’u lleoli yn eu swyddfa yng Nghasnewydd, a fydd yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau i godi arian hanfodol ar gyfer Apêl Sparkle drwy gydol y flwyddyn.
Dywedodd Ian Edwards, Rheolwr Codi Arian yn Sparkle: “Mae Sparkle yn dibynnu ar bartneriaethau corfforaethol gwerthfawr i alluogi ein tîm i ddarparu cefnogaeth a darparu gweithgareddau hamdden i blant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth.
“Felly, rydym wrth ein bodd bod Harding Evans wedi ein dewis ni i fod yn elusen y flwyddyn ac edrychwn ymlaen at flwyddyn hwyliog a gwerth chweil gyda’i dîm.”
“Ar ôl bod wedi’i leoli yng nghanol Casnewydd ers y 1870au, mae’n bwysig iawn i ni ein bod ni’n rhoi yn ôl i’r cymunedau o’n cwmpas” ychwanegodd Ken Thomas, Cadeirydd Harding Evans, “pleidleisiodd ein tîm yma yn unfrydol i gefnogi’r gwaith gwych y mae Sparkle yn ei wneud ac edrychwn ymlaen at godi cymaint o arian â phosibl iddyn nhw dros y 12 mis nesaf – a chael ychydig o hwyl wrth i ni wneud hynny!”
Os hoffech ein helpu gyda’n codi arian, gallwch gyfrannu i’n tudalen JustGiving yma.