Ydych chi'n gwmni cyfreithiol sy'n ceisio cyngor cydymffurfio SRA?
Byddwch yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd gweithredu o fewn rheolau a rheoliadau SRA, ond weithiau, mae problemau yn digwydd. Mae ein cyfreithwyr yn gallu ystyried cyfarwyddiadau yn y maes hwn.
Trwy ein Pennaeth Cydymffurfiaeth, sy’n gyfreithiwr cymwys ac a dreuliodd 14 mlynedd yn yr SRA yn gweithio ar y tîm Ymchwiliadau Fforensig yn unig, gallwn gynghori cwmnïau cyfreithiol a’u staff ar faterion cydymffurfio â’r SRA, gan gynnwys darparu hyfforddiant a chynrychioli cwmnïau sy’n cael eu hymchwilio gan yr SRA.
Gall ein cyfreithwyr helpu ym mhob maes cydymffurfio cyfreithiol, gan gynnwys:
- Cydymffurfio â Chodau Ymddygiad yr SRA.
- Rheolau Cyfrifon SRA.
- Gofynion Gwrth-Wyngalchu Arian.
- Canfod ac atal twyll.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni heddiw.