
Rydym yn falch o gyflwyno Lola Harmes, sydd wedi ymuno â Harding Evans fel Hyfforddai Cyfreithiwr yn ein tîm Ymgyfreitha Masnachol.
Yn frodor o Gasnewydd, mae Lola wedi byw yn y ddinas ar hyd ei hoes, ar wahân i’w chyfnod yn y brifysgol. Ar ôl graddio o Brifysgol Caerwysg, mae Lola bellach yn astudio ar gyfer ei gradd LLM ym Mhrifysgol y Gyfraith ochr yn ochr â’i hyfforddiant yn Harding Evans.
Dywedodd Ben Jenkins, Pennaeth Ymgyfreitha Masnachol, wrth groesawu Lola: “Rydym wrth ein bodd yn croesawu Lola fel hyfforddai yn yr Adran Fasnachol yma yn Harding Evans. Mae’n ychwanegiad gwych i’r tîm. Edrychwn ymlaen at ei chefnogi drwy gydol ei chontract hyfforddi a’i helpu i ddatblygu ei sgiliau a’i phrofiad wrth iddi ddechrau ar ei gyrfa gyfreithiol. Mae ymuno Lola hefyd yn rhan bwysig o dwf parhaus nid yn unig ein Hadran Fasnachol, sydd wedi ennill gwobrau ac sydd ag enw da, ond y cwmni cyfan hefyd.”
Ychwanegodd Lola: “Roedd gweithio o fewn cymuned Cymru wastad yn nod i mi. Mae enw da Harding Evans am ragoriaeth a’i hymrwymiad i Gymru yn adlewyrchu fy ngwerthoedd a’m nodau innau, ac mae’n lle perffaith i ddechrau fy ngyrfa gyfreithiol.”
Y tu allan i’r swyddfa, mae Lola yn mwynhau treulio amser gyda’i theulu, yn enwedig ei chefndryd a’i chyfnitherod ifanc. Mae hefyd wrth ei bodd yn chwarae pêl-rwyd, gwylio sioeau cerdd a phobi.
Ac mae gan Lola dalent ychwanegol hefyd – mae’n ddwyieithog! Mae Lola yn rhugl yn y Gymraeg a chafodd ei haddysg gyfan drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd. Mae’n gobeithio dysgu rhagor o ieithoedd yn y dyfodol, gyda’r iaith arwyddion a Ffrangeg ar frig ei rhestr!
Croeso i Dîm HE, Lola!