
Gall strôc ddigwydd i unrhyw un, o unrhyw oedran. Gall adnabod yr arwyddion yn gyflym a ffonio 999 heb oedi fod yn hollbwysig, gan y gall asesiad a thriniaeth brydlon leihau’r risg o anabledd difrifol a pharhaol.
I’n tîm Esgeulustod Clinigol, mae Diwrnod Strôc y Byd hefyd yn gyfle i dynnu sylw at bwysigrwydd diagnosis a thriniaeth amserol – a phan all oedi neu fethu ag adnabod symptomau godi pryderon ynghylch safon y gofal a ddarparwyd.
Pam Mae Triniaeth Gynnar yn Bwysig
Mae strôc yn digwydd pan amherir ar y cyflenwad gwaed i ran o’r ymennydd, naill ai oherwydd rhwystr neu waedu.
Unwaith yr amheuir strôc, mae angen asesiad brys a sgan o’r ymennydd er mwyn sefydlu pa fath o strôc sydd wedi digwydd a phenderfynu ar y driniaeth fwyaf priodol. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gall hyn gynnwys triniaethau fel thrombolysis neu thrombectomi.
Po gyntaf y gwneir diagnosis priodol a’r cynharaf y darperir triniaeth, lle bo hynny’n glinigol briodol, y mwyaf yw’r cyfle i gyfyngu ar niwed i’r ymennydd.
Dyna pam mae adnabod arwyddion strôc a gweithredu’n gyflym mor bwysig.
Rydym wedi edrych yn flaenorol ar bwysigrwydd cael mynediad amserol at ofal arbenigol yn ein herthygl ar gau unedau strôc yng Nghymru, gan ystyried pryderon ynghylch newidiadau arfaethedig i wasanaethau lleol a chanlyniadau posibl oedi wrth wneud diagnosis a darparu triniaeth.
Adnabod yr Arwyddion: Cofiwch FAST
Gellir cofio prif arwyddion strôc gan ddefnyddio FAST:
- Face (Wyneb): A yw un ochr o’r wyneb wedi cwympo? A all y person wenu fel arfer?
- Arms (Breichiau): A all godi’r ddwy fraich a’u cadw yn yr un safle?
- Speech (Lleferydd): A yw ei leferydd yn aneglur, yn ddryslyd neu’n anodd ei ddeall?
- Time (Amser): Os byddwch yn sylwi ar unrhyw un o’r arwyddion hyn, ffoniwch 999 ar unwaith.
Gall symptomau eraill gynnwys colli golwg yn sydyn neu olwg aneglur, pendro difrifol neu ansadrwydd, colli cydsymud, gwendid neu ddiffyg teimlad ar un ochr o’r corff, neu anhawster deall neu siarad.
Os ydych yn amau strôc, ffoniwch 999 ac eglurwch eich bod yn meddwl y gallai’r person fod yn cael strôc. Peidiwch ag aros i weld a yw’r symptomau’n gwella.
Gall symptomau weithiau ddod i ben ar ôl cyfnod byr. Gall hyn fod yn ymosodiad isgemig dros dro (TIA), a elwir weithiau yn ‘mini-strôc’. Gall TIA fod yn arwydd rhybudd o strôc yn y dyfodol ac mae angen asesiad meddygol brys o hyd.
Pryd y Gall Oedi mewn Gofal Strôc Godi Pryderon?
Nid yw pob strôc yn ganlyniad i ofal esgeulus, a hyd yn oed pan ddarperir triniaeth briodol, gall strôc gael canlyniadau difrifol.
Fodd bynnag, gall pryderon godi lle bu methiant y gellid bod wedi’i osgoi i adnabod symptomau neu ymateb iddynt yn briodol.
Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gallai hyn gynnwys:
- methu ag adnabod symptomau strôc neu TIA;
- methu â threfnu ymchwiliadau priodol neu sgan o’r ymennydd yn brydlon;
- oedi wrth atgyfeirio at wasanaethau strôc arbenigol priodol neu eu cynnwys;
- methu â darparu triniaeth briodol o fewn yr amserlen glinigol berthnasol;
- methu â monitro neu reoli ffactorau risg perthnasol yn briodol; neu
- methu ag ymateb i arwyddion y gallai claf fod yn cael strôc, neu fod mewn mwy o berygl o gael strôc.
Bydd p’un a fu esgeulustod clinigol yn dibynnu ar amgylchiadau unigol a’r dystiolaeth sydd ar gael.
Beth Sy’n Angenrheidiol i Sefydlu Hawliad Esgeulustod Clinigol?
Nid yw canlyniad gwael yn dilyn strôc, ynddo’i hun, yn golygu bod esgeulustod clinigol wedi digwydd.
Er mwyn sefydlu hawliad, yn gyffredinol mae angen dangos bod y gofal a ddarparwyd yn is na’r safon briodol a bod hyn wedi achosi, neu wedi cyfrannu’n sylweddol at, anaf neu waethygu canlyniad y gellid bod wedi’i osgoi.
Mewn achosion o strôc, gall hyn fod yn arbennig o bwysig wrth ystyried a fyddai diagnosis neu driniaeth gynharach wedi gwneud gwahaniaeth tebygol. Felly, efallai y bydd angen i arbenigwyr meddygol annibynnol ystyried y gofal a ddarparwyd a beth fyddai’r canlyniad tebygol pe bai triniaeth briodol wedi’i darparu’n gynt.
Mae pob achos yn wahanol, a’r dystiolaeth fydd yn penderfynu a oes sail i hawliad.
Sut Gall Ein Tîm Esgeulustod Clinigol Helpu?
Os ydych chi neu rywun sy’n agos atoch wedi cael strôc a’ch bod yn pryderu bod symptomau wedi’u methu, bod triniaeth wedi’i gohirio, neu nad oedd y gofal priodol wedi’i ddarparu, efallai y bydd modd ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd.
Gall ein tîm Esgeulustod Clinigol arbenigol adolygu’r amgylchiadau, helpu i gael y cofnodion meddygol perthnasol a cheisio tystiolaeth arbenigol annibynnol briodol lle bo angen.
Yna gallwn egluro a allai fod sail i hawliad esgeulustod clinigol a beth allai’r camau nesaf fod.
Os oes gennych bryderon am y gofal a gawsoch chi neu rywun annwyl ar ôl strôc, cysylltwch â’n tîm Esgeulustod Clinigol i drafod yr hyn a ddigwyddodd.