
Cynhelir Wythnos Gwrth-fwlio rhwng 16 a 20 Tachwedd 2026, ac mae thema eleni, “Torri’r Tawelwch”, yn cyfleu neges sydd yr un mor berthnasol i’r gweithle ag ydyw i ysgolion a phobl ifanc. Mae’r Anti-Bullying Alliance, sy’n trefnu’r wythnos, yn annog pobl i ddechrau sgyrsiau am fwlio, codi eu llais, gwrando a chymryd camau gweithredu gyda’i gilydd.
I fusnesau, dylai’r neges hon ysgogi trafodaeth bwysig.
Byddai’r rhan fwyaf o gyflogwyr yn dweud yn ddi-oed nad oes lle i fwlio yn eu sefydliad. Ond a fyddai gweithwyr yn teimlo’n hyderus i godi eu llais pe baent yn credu eu bod yn cael eu bwlio? A fyddai rheolwyr yn adnabod ymddygiad problemus o fewn eu timau eu hunain? A phan wneir honiad, a all y busnes wahaniaethu rhwng bwlio gwirioneddol a rheolaeth ddilys, hyd yn oed os yw hynny weithiau’n anghyfforddus i’r gweithiwr?
Mae’r cwestiwn olaf hwn yn arbennig o bwysig. Gall gweithiwr sy’n anhapus ynghylch cael ei herio am ei berfformiad ddisgrifio ei reolwr fel bwli. Yn yr un modd, gall rheolwr gredu ei fod yn syml yn bod yn gadarn neu’n uniongyrchol pan fo ei ymddygiad wedi mynd yn fygythiol, yn waradwyddus neu’n afresymol.
Felly, mae torri’r tawelwch yn gofyn am fwy nag annog gweithwyr i gwyno. Mae’n gofyn i fusnesau greu amgylchedd lle gellir codi pryderon, gwrando arnynt a delio â nhw’n deg.
Beth a Olygir Wrth Fwlio Yn Y Gweithle?
Nid oes diffiniad statudol annibynnol o fwlio yn y gweithle o dan gyfraith cyflogaeth y DU.
Serch hynny, gall gynnwys ystod eang o ymddygiad amhriodol, gan gynnwys ymddygiad bygythiol, maleisus, sarhaus neu ymddygiad afresymol fel arall.
Yn bwysig, nid yw bwlio bob amser yn amlwg. Gall gynnwys:
- Beirniadu neu fychanu rhywun dro ar ôl tro o flaen cydweithwyr;
- Gwneud sylwadau personol neu ddibrisiol;
- Eithrio gweithiwr yn fwriadol o wybodaeth neu gyfarfodydd sydd eu hangen arno i gyflawni ei waith;
- Tanseilio awdurdod rhywun yn barhaus;
- Gosod llwyth gwaith neu derfynau amser afresymol sydd wedi’u cynllunio i beri i rywun fethu;
- Cymhwyso safonau’n ddetholus;
- Bygwth diogelwch swydd rhywun fel ffordd o’i ddychryn; neu
- Patrwm o ymddygiad sydd, o’i ystyried yn ei gyfanrwydd, yn creu amgylchedd gwaith bygythiol neu elyniaethus.
Gall bwlio ddigwydd yn electronig hefyd, gan gynnwys drwy e-bost, Teams, WhatsApp a llwyfannau negeseuon eraill.
Pryd Mae Rheolaeth Gadarn Yn Mynd Yn Rhy Bell?
Yn aml, dyma’r cwestiwn anoddach i gyflogwyr. Mae gan reolwyr hawl i reoli. Yn wir, gall methu â mynd i’r afael â pherfformiad gwael neu ymddygiad amhriodol greu problemau ynddo’i hun.
Gall rheolaeth ddilys gynnwys gosod amcanion heriol, herio perfformiad gwael, rhoi adborth beirniadol, gwrthod ceisiadau neu ddechrau proses ffurfiol ar gyfer rheoli perfformiad neu ddisgyblu.
Efallai y bydd gweithiwr yn gweld y sgyrsiau hyn yn ofidus neu’n anghyfforddus. Nid yw hynny’n golygu’n awtomatig ei fod yn cael ei fwlio.
Ystyriwch y gwahaniaeth rhwng:
“Mae eich perfformiad presennol yn is na’r safon sy’n ofynnol ar gyfer eich rôl. Dyma’r meysydd lle mae angen gwelliant a byddwn yn adolygu eich cynnydd ymhen pedair wythnos”a: “Mae pawb yn gwybod eich bod yn ddiwerth yn y swydd hon. Os na allwch ymdopi, efallai na ddylech fod yma.”
Gallai’r ddwy sgwrs ddeillio o bryder gwirioneddol ynghylch perfformiad. Y ffordd yr ymdrinnir â’r pryder hwnnw sy’n newid y sefyllfa. Nid yw amcan rheoli dilys yn esgusodi ymddygiad afresymol.
Mae Torri’r Tawelwch Yn Gweithio’r Gdwy Ffordd
Mae neges Wythnos Gwrth-fwlio yn cynnig gwers bwysig i gyflogwyr.
Mae angen i weithwyr deimlo y gallant godi pryderon gwirioneddol heb ofni dial na chredu na fydd unrhyw gamau’n cael eu cymryd. Ond mae angen i reolwyr hefyd deimlo’n hyderus y gallant reoli gweithwyr yn briodol heb i bob sgwrs anodd gael ei disgrifio fel bwlio.
Dylai gweithle iach ganiatáu i’r ddau beth ddigwydd.
Mae hynny’n gofyn am ddiwylliant lle gall gweithiwr ddweud, “Mae gen i bryder ynghylch y ffordd rwy’n cael fy nhrin”, a lle gall rheolwr ddweud, “Mae problem wirioneddol gyda’ch perfformiad”, gyda’r ddau bryder yn cael eu clywed a’u trin yn wrthrychol. Dyna pam y dylai cyflogwr sy’n derbyn cwyn am fwlio edrych y tu hwnt i’r label a sefydlu’n union beth sydd wedi digwydd. Nid yw bwlio ac aflonyddu o reidrwydd yr un peth. Mae Citizens Advice yn esbonio’r gwahaniaeth rhwng bwlio ac aflonyddu. Er bod y termau “bwlio” ac “aflonyddu” yn cael eu defnyddio’n gyfnewidiol yn aml, mae gwahaniaeth cyfreithiol pwysig rhyngddynt. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ymdrin yn benodol ag aflonyddu. Yn fras, gall aflonyddu ddigwydd pan fo ymddygiad digroeso sy’n ymwneud â nodwedd warchodedig berthnasol yn cael y diben neu’r effaith o darfu ar urddas rhywun neu greu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, gwaradwyddus neu sarhaus.
Felly, gall cwyn am fwlio sy’n ymwneud â hil, rhyw, anabledd, oedran, crefydd neu nodwedd warchodedig arall unigolyn godi materion cyfreithiol ychwanegol. Fodd bynnag, ni ddylid diystyru bwlio nad yw’n ymwneud â nodwedd warchodedig. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau ac ymateb y cyflogwr, gall bwlio difrifol gyfrannu at gwynion ffurfiol, absenoldeb salwch ac o bosibl hawliadau gan gynnwys diswyddo annheg deongliadol.
Mae Gweithiwr Yn Dweud Ei Fod Yn Cael Ei Fwlio. Beth Ddylech Chi Ei Wneud?
Gwrandewch yn gyntaf, ond peidiwch â rhagfarnu.
Dylai cyflogwr sefydlu:
- Beth yn union yr honnir sydd wedi’i ddweud neu ei wneud?
- Pryd y digwyddodd?
- Ai digwyddiad unigol oedd hwn neu batrwm o ymddygiad?
- A oedd unrhyw dystion?
- A oes e-byst, negeseuon Teams neu gofnodion eraill?
- Beth oedd yn digwydd ar y pryd?
- A oedd mater gwirioneddol ynghylch perfformiad neu ymddygiad yn cael ei drafod?
- Sut y cafodd gweithwyr eraill eu trin mewn amgylchiadau tebyg?
- Pa esboniad y mae’r unigolyn sy’n cael ei gyhuddo yn ei roi?
Mae’r dull hwn yn diogelu’r ddwy ochr.
Gall honiad o fwlio fod yn ddifrifol iawn i’r unigolyn sy’n ei wneud, ond gall hefyd gael canlyniadau proffesiynol ac o ran enw da sylweddol i’r unigolyn sy’n cael ei gyhuddo.
Dylai torri’r tawelwch olygu creu amgylchedd lle caiff pryderon eu clywed a’u hymchwilio’n deg, nid un lle tybir yn awtomatig bod honiadau’n gywir.
Edrych y Tu Hwnt i Ddigwyddiadau Unigol
Weithiau gall fod yn anodd adnabod bwlio oherwydd bod digwyddiadau unigol yn ymddangos yn gymharol ddibwys wrth eu hystyried ar wahân.
Efallai na fydd e-bost byr ei naws, beirniadaeth ddiangen neu gael eich eithrio o un cyfarfod yn arwydd o fwlio ynddo’i hun. Gall patrwm parhaus o feirniadaeth, allgáu, bychanu a thanseilio dros sawl mis edrych yn dra gwahanol.
Felly, dylai cyflogwyr edrych ar y berthynas a’r patrwm ymddygiad cyffredinol yn ogystal â’r honiadau unigol.
I’r gwrthwyneb, nid yw rhestr hir o gwynion yn profi bod bwlio wedi digwydd os yw’r cwynion hynny, yn y pen draw, yn ymwneud â chamau rheoli rhesymol a chymesur.
Beth All Busnesau Ei Ddysgu o Wythnos Gwrth-Fwlio?
Dylai Wythnos Gwrth-fwlio fod yn fwy na chyfle i ddosbarthu polisi neu gyhoeddi neges ar fewnrwyd y cwmni.
Mae thema 2026 yn gofyn i bobl “Dorri’r Tawelwch”, gan annog pobl i godi eu llais ac annog oedolion a sefydliadau i wrando, cefnogi a chymryd camau ystyrlon.
I gyflogwyr, mae’n gyfle defnyddiol i ofyn:
- A yw gweithwyr yn gwybod sut i godi pryderon?
- A yw rheolwyr yn gwybod sut i ymateb pan godir pryderon?
- A yw rheolwyr wedi cael hyfforddiant i gynnal sgyrsiau anodd am berfformiad mewn ffordd briodol?
- A fyddai gweithwyr iau yn teimlo’n wirioneddol gyfforddus yn codi pryderon am ymddygiad uwch-gydweithiwr?
- A yw Adnoddau Dynol yn gwahaniaethu rhwng y label a roddir ar gŵyn a’r ymddygiad sydd wrth wraidd y mater?
- A yw cwynion yn cael eu hymchwilio’n deg ar ran y sawl sy’n cwyno a’r unigolyn sy’n cael ei gyhuddo?
Mae cael polisi ar fwlio ac aflonyddu yn bwysig.
Mae creu diwylliant lle mae gweithwyr a rheolwyr yn ymddiried y bydd y polisi’n gweithio’n ymarferol yn llawer pwysicach.
Torrwch y tawelwch, ond gwrandewch ar yr hyn sy’n cael ei ddweud mewn gwirionedd. Efallai mai dyna’r neges fwyaf defnyddiol y gall busnesau ei dysgu o Wythnos Gwrth-fwlio.
Anogwch weithwyr i godi eu llais. Gwnewch hi’n ddiogel iddynt wneud hynny. Gwrandewch yn ofalus pan godir pryderon.
Weithiau bydd ymchwiliad yn datgelu bwlio sy’n gofyn am gamau pendant. Weithiau bydd yn nodi arferion rheoli gwael sydd angen hyfforddiant neu ymyrraeth yn hytrach na chamau disgyblu. Ar adegau eraill, gall sefydlu bod rheolwr wedi bod yn cyflawni cyfrifoldebau rheoli dilys yn briodol yn unig.
Mae torri’r tawelwch yn dechrau’r sgwrs. Mae rheolaeth dda yn ymwneud â gwybod beth i’w wneud nesaf.
Sut y Gall Harding Evans Helpu
Yn Harding Evans, mae ein tîm Cyfraith Cyflogaeth arbenigol yn gweithio gyda busnesau o bob maint i reoli materion anodd yn y gweithle, gan gynnwys cwynion am fwlio ac aflonyddu, achwyniadau, ymchwiliadau disgyblu a rheoli perfformiad.
Rydym yn darparu cyngor ymarferol sy’n canolbwyntio ar anghenion masnachol er mwyn helpu cyflogwyr i fynd i’r afael â phryderon yn deg ac yn effeithiol, gan reoli risg gyfreithiol ac i enw da ar yr un pryd.
Os ydych yn pryderu am fwlio neu aflonyddu yn y gwaith, neu os hoffech gael cymorth gyda pholisïau a hyfforddiant eich sefydliad, cysylltwch â Daniel Wilde ar 01633 244233 neu anfonwch e-bost at wilded@hevans.com am sgwrs gyfrinachol.