
Mae Liv Hunt wedi ymuno â’n tîm Esgeulustod Clinigol yn ddiweddar fel Cynorthwyydd Ymgyfreitha.
Ar ôl gweithio fel athrawes ysgol gynradd yn flaenorol, mae Liv wedi datblygu gwir angerdd dros y proffesiwn cyfreithiol, ac rydym wrth ein bodd ei bod bellach yn dod â’i sgiliau a’i brwdfrydedd i’r tîm.
Croesawodd Victoria Smithyman, Pennaeth Anafiadau Personol, Liv: ‘’Croeso i Liv, sydd wedi ymuno â ni fel Cynorthwyydd Ymgyfreitha ac a fydd yn gweithio’n agos gyda Nicole. Rydym wrth ein bodd bod Liv wedi ymuno â’r tîm ac edrychwn ymlaen at ei chefnogi wrth iddi ddatblygu ei phrofiad a’i gyrfa ym maes y gyfraith.’’
Dywedodd Liv: “Rwy’n hapus iawn i ymuno â chwmni mor groesawgar a chyfeillgar. Rwy’n edrych ymlaen at ddod i adnabod pawb a pharhau â’r bennod gyffrous hon yn fy ngyrfa yn Harding Evans!”
Pan nad yw’n brysur yn cefnogi’r cyfreithwyr, mae Liv yn mwynhau treulio amser gyda’i nithoedd, ei ffrindiau a’i chydymaith pedair coes annwyl.