Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Gianpiero Molinu, Uwch Gydymaith yn ein tîm Cludo Preswyl, wedi cael ei enwi ar Restr Pinc flynyddol WalesOnline – dathliad o’r bobl ledled Cymru sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r gymuned LHDT+.
Mae’r rhestr yn cydnabod enwogion, gwleidyddion, newyddiadurwyr, sêr chwaraeon, arweinwyr cymunedol ac ymgyrchwyr sy’n gwneud mwy na’u swyddi yn unig, ond sy’n newid Cymru er gwell i fod yn gynhwysol, yn gefnogol ac i ganiatáu i bobl o ba bynnag oedran, crefydd, rhywioldeb neu ryw fod pwy maen nhw eisiau bod.
I ffwrdd o’i swydd ddyddiol yma gyda ni, mae Gian yn gadeirydd yr elusen LGBTQ+ fwyaf ar lawr gwlad yng Nghymru, Pride Cymru. Ef hefyd yw cadeirydd sefydlu Fast Track Caerdydd a’r Fro, ac mae’n tynnu ar ei brofiad personol a’i wybodaeth ei hun am HIV i chwarae rhan yn y grŵp cynghori i Lywodraeth Cymru ar Gynllun Gweithredu HIV Cymru.
Llongyfarchiadau Gian – rydyn ni i gyd mor falch ohonoch chi!