
Rydym wrth ein bodd yn croesawu James Pearn, Uwch Gydymaith, i’n tîm Trawsgludo Eiddo Preswyl.
Astudiodd James ym Mhrifysgol De Cymru ac yng Ngholeg y Gyfraith yn Guildford cyn cymhwyso’n gyfreithiwr ym 1993. Dechreuodd ei yrfa gyfreithiol mewn practis cyffredinol yng Nghastell-nedd a Chwm Tawe, gan ennill profiad mewn amrywiaeth o feysydd cyfreithiol.
Ar ôl symud i Gaerdydd yn 2006, datblygodd James ddiddordeb arbennig yng nghyfraith eiddo ac aeth ymlaen i arbenigo mewn materion eiddo preswyl a masnachol. Gyda dros 30 mlynedd o brofiad cyfreithiol, mae’n mwynhau helpu cleientiaid i lywio trafodion eiddo yn hyderus, gan ddarparu cyngor ymarferol a chlir drwy gydol y broses.
Croesawodd Gian Molinu, Uwch Gydymaith yn y tîm Trawsgludo Eiddo Preswyl, James i’r tîm: “Mae James yn dod â dyfnder aruthrol o brofiad ac arbenigedd i Harding Evans, ac rwy’n hynod falch o’i groesawu wrth i ni barhau i dyfu a chryfhau ein tîm yng Nghaerdydd.”
Ychwanegodd James: “Ymunais â Harding Evans oherwydd ei enw da rhagorol, ei ddiwylliant cryf sy’n canolbwyntio ar gleientiaid, a’i ymrwymiad i gefnogi cleientiaid a chydweithwyr. Roedd y cyfle i weithio ochr yn ochr â Wyn a’r tîm eiddo yn arbennig o ddeniadol. Edrychaf ymlaen at gyfrannu at dwf a llwyddiant parhaus y cwmni.”
Y tu allan i’r gwaith, mae James yn mwynhau teithio a darganfod lleoedd newydd. Ar ôl chwarae rygbi a mwynhau gwylio Cymru yn chwarae yn y gorffennol, mae bellach yn treulio ei amser hamdden yn chwarae pêl-rwyd padlo (pickleball). Mae hefyd yn Ymddiriedolwr elusen sydd wedi’i lleoli yn Aberhonddu, gan gefnogi ei gwaith yn y gymuned leol.
Croeso i Dîm HE, James!