
Am bron i 24 awr, nid oedd busnesau ledled y byd yn gallu:
- Anfon na derbyn negeseuon e-bost drwy Outlook;
- Rheoli eu calendrau;
- Cynnal galwadau a chyfarfodydd drwy Teams;
- Cyrchu ffeiliau a rennir ar SharePoint; na
- Defnyddio cynorthwyydd deallusrwydd artiffisial Copilot Microsoft.
Nododd rhai busnesau hefyd broblemau wrth agor ffeiliau Word ac Excel. Mae Microsoft wedi disgrifio’r digwyddiad fel un o’r tarfu hiraf yn ei hanes.
Mae’r asiantaeth statws credyd Morningstar DBRS wedi amcangyfrif bod y colledion yswiriedig byd-eang rhwng $300 miliwn a $500 miliwn. Mae gwasanaethau Microsoft wedi’u hintegreiddio’n helaeth i weithrediadau dyddiol y rhan fwyaf o fusnesau. Yma yn y DU, dychwelodd rhai gwasanaethau’r GIG at ddefnyddio cofnodion papur. I lawer o fusnesau, roedd hyn yn golygu colli diwrnod masnachu, methu terfynau amser a gorfod cael sgyrsiau anodd gyda chwsmeriaid.
Nawr bod y systemau wedi’u hadfer, mae llawer o berchnogion busnesau’n gofyn yr un cwestiwn: a allwn ni adennill unrhyw ran o’r arian hwnnw, ac os felly, gan bwy?
A Allwch Chi Hawlio Iawndal Gan Microsoft?
Yn fyr, mae’n annhebygol y byddwch yn gallu adennill llawer. Mae cytundebau Microsoft 365 yn cynnig “credydau gwasanaeth” pan fydd argaeledd gwasanaeth yn disgyn islaw’r lefelau a nodir yng Nghytundeb Lefel Gwasanaeth Microsoft ar gyfer Gwasanaethau Ar-lein. Yn dibynnu ar hyd y tarfu ar gyfer eich sefydliad, adroddir y gall y credydau hyn fod yn werth 25%, 50% neu 100% o’r ffioedd ar gyfer y gwasanaeth yr effeithiwyd arno.
Mae rhai pethau y dylech fod yn ymwybodol ohonynt:
- Nid yw credydau’n cael eu rhoi’n awtomatig. Mae angen i chi (neu eich darparwr TG) wneud cais amdanynt, a chaiff pob hawliad ei asesu ar sail yr effaith ar eich amgylchedd eich hun.
- Mae terfyn amser. Adroddir mai’r dyddiad cau ar gyfer hawliadau sy’n ymwneud â’r tarfu ym mis Tachwedd yw 31 Rhagfyr 2026, felly peidiwch â’i adael tan y flwyddyn newydd.
- Dim ond eich ffioedd tanysgrifio y mae’r credydau’n eu cwmpasu. Ni fydd colledion anuniongyrchol, megis gwerthiannau a gollwyd, goramser staff neu gyfleoedd a gollwyd, yn cael eu cynnwys.
Ychydig iawn o gyfle sydd yng Nghymru a Lloegr i herio telerau mewn contractau rhwng busnesau. Yn gyffredinol, ni fydd cyfraith Cymru a Lloegr yn ymyrryd â chontractau lle tybir bod cydraddoldeb o ran gallu a phŵer bargeinio rhwng y partïon. Nid gwaith y gyfraith yw cywiro bargen wael.
Wrth gwrs, mae’n rhyfedd mewn rhai ffyrdd dadlau bod gan Microsoft yr un pŵer bargeinio â’r rhan fwyaf o fusnesau bach a chanolig, ond dyma’r sefyllfa gyfreithiol sefydledig ar hyn o bryd.
Yr unig sail dros herio telerau mewn contractau rhwng busnesau yw dadlau eu bod yn afresymol, fel y nodir yn Neddf Telerau Contract Annheg 1977 (Unfair Contract Terms Act 1977). Y busnes sy’n dadlau bod y telerau’n annheg sy’n gyfrifol am brofi hynny. Yn ymarferol, mae’n annhebygol iawn y byddai telerau Microsoft yn methu’r prawf rhesymoldeb, a byddai’r cwmni’n defnyddio adnoddau sylweddol i atal canfyddiad negyddol, o ystyried yr effaith eang y gallai canfyddiad o’r fath ei chael.
Felly, dylech dybio y bydd telerau safonol Microsoft yn parhau i fod yn berthnasol, ynghyd â’r cyfyngiadau ar atebolrwydd a’r posibilrwydd mai dim ond credydau gwasanaeth y byddwch yn gallu eu hadennill. Efallai y bydd sefydliadau mwy o faint sydd â mwy o bŵer bargeinio wedi negodi contractau a thelerau pwrpasol. Dylai’r sefydliadau hyn ofyn am adolygiad o’u telerau i ystyried pa hawliadau y gallant eu cyflwyno yn erbyn Microsoft.
A Fydd Eich Yswiriant Yn Talu?
Dyma lle mae’r rhan fwyaf o fusnesau’n debygol o gael gwell cyfle i adennill eu colledion, ond mae’n dibynnu’n llwyr ar eiriad eich polisi yswiriant.
- Mae yswiriant safonol ar gyfer tarfu ar fusnes fel arfer yn berthnasol dim ond pan fydd difrod ffisegol wedi digwydd, megis tân neu lifogydd yn eich safle. Yn aml, ni fydd tarfu ar wasanaeth darparwr trydydd parti yn gymwys.
- Gall yswiriant seiber helpu. Mae rhai polisïau’n cynnwys yswiriant ar gyfer “methiant system” neu “darfu ar fusnes dibynnol”, a all ddarparu yswiriant pan fydd cyflenwr rydych yn dibynnu arno yn methu â darparu gwasanaeth. Mae Microsoft wedi dweud mai mater technegol oedd hwn yn hytrach nag ymosodiad seiber, felly mae’n werth gwirio a yw eich polisi’n cwmpasu tarfu nad yw’n faleisus, gan nad yw rhai polisïau’n gwneud hynny.
- Mae cyfnodau aros yn bwysig. Dim ond ar ôl i darfu bara am nifer penodol o oriau y bydd llawer o bolisïau’n talu allan. Gan fod y tarfu hwn wedi para am bron i ddiwrnod, mae’n bosibl ei fod wedi mynd y tu hwnt i’r trothwy hwnnw, lle na fyddai tarfu byrrach wedi bod yn gymwys.
Beth bynnag yw eich yswiriant, rhowch wybod i’ch yswiriwr neu frocer cyn gynted â phosibl. Mae rhoi gwybod yn hwyr yn un o’r rhesymau mwyaf cyffredin dros broblemau gyda hawliadau.
Os ydych yn credu y dylai eich polisi yswiriant fod yn berthnasol, ond bod yr yswiriwr yn gwrthod eich hawliad beth bynnag, byddai gennych sail dros wneud cwyn. Yn dibynnu ar faint eich busnes, efallai y byddwch yn gallu cyfeirio’r mater at yr Ombwdsmon Ariannol. Fel arall, mae achos cyfreithiol yn parhau i fod yn opsiwn.
Beth Os Yw Eich Cwsmeriaid Eich Hun Am Wneud Hawliad?
Os oedd y tarfu’n golygu eich bod wedi methu terfyn amser neu’n methu â darparu gwasanaeth, efallai mai chi fydd yn wynebu cwyn. Edrychwch ar eich contractau a’ch telerau ac amodau i weld a oes cymal force majeure (amgylchiadau eithriadol y tu hwnt i reolaeth y partïon), a all esgusodi parti rhag cyflawni ei rwymedigaethau pan fydd rhywbeth gwirioneddol y tu hwnt i’w reolaeth yn digwydd.
Mae p’un a fyddai tarfu ar system TG yn gymwys yn dibynnu ar union eiriad y cymal. Mae rhai cymalau’n cyfeirio’n benodol at fethiannau cyflenwyr neu systemau, ond nid yw eraill yn gwneud hynny. Gall llys hefyd ystyried a allai busnes fod wedi cael trefniadau wrth gefn rhesymol ar waith. Os ydych mewn anghydfod, ceisiwch gyngor cyn ymateb.
Mae hefyd yn werth gwirio eich contract gydag unrhyw ddarparwr TG neu ddarparwr gwasanaethau a reolir. Os oedd ganddynt rwymedigaethau ynghylch parhad busnes neu gopïau wrth gefn na chawsant eu cyflawni, efallai y bydd gennych hawliad yn eu herbyn.
Beth I’w Wneud Nawr
- Cofnodwch eich colledion tra bo’r manylion yn ffres: oriau a gollwyd, gwerthiannau a gollwyd, goramser a dalwyd ac unrhyw gostau ychwanegol.
- Hawliwch eich credydau gwasanaeth gan Microsoft cyn y dyddiad cau.
- Rhowch wybod i’ch yswiriwr neu frocer nawr, hyd yn oed os nad ydych yn siŵr a oes gennych yswiriant priodol.
- Gwiriwch eiriad eich polisi am yswiriant methiant system neu darfu ar fusnes dibynnol, ac unrhyw gyfnodau aros.
- Adolygwch eich contractau gyda chwsmeriaid a chyflenwyr, yn enwedig unrhyw gymalau force majeure.
- Dysgwch o’r profiad. Adolygwch eich cynlluniau parhad busnes ac ystyriwch a yw eich yswiriant a’ch contractau TG yn addas i’r diben.
Os effeithiwyd ar eich busnes gan y tarfu, darganfyddwch sut y gall ein tîm Ymgyfreitha Masnachol helpu. Cysylltwch â ni yma.