
P’un a ydych yn prynu eich cartref cyntaf, yn symud i rywle newydd neu’n ailforgeisio, gall deall y broses gyfreithiol eich helpu i gynllunio ymlaen llaw ac osgoi oedi diangen.
O baratoi eich dogfennau i gyllidebu ar gyfer treth eiddo, dyma’r pwyntiau ymarferol i’w cadw mewn cof wrth symud cartref yng Nghymru.
Cynllunio i symud neu ailforgeisio
Bydd hyd eich trafodiad yn dibynnu ar yr eiddo, unrhyw gadwyn eiddo, trefniadau’r morgais a’r ymholiadau y mae angen eu hateb. Gofynnwch i’ch cyfreithiwr am amserlen realistig ar gyfer eich amgylchiadau, a rhowch wybod am unrhyw derfynau amser.
Os ydych yn gwerthu, gallwch gyfarwyddo cyfreithiwr pan fydd eich eiddo yn mynd ar y farchnad. Mae hyn yn rhoi amser i chi lenwi ffurflenni a delio ag ymholiadau cyn dod o hyd i brynwr. Darllenwch fwy am sut y gall cyfarwyddo cyfreithiwr yn gynnar helpu gyda’ch gwerthiant.
Os ydych yn ailforgeisio, siaradwch â’ch benthyciwr neu’ch brocer cyn i’ch cytundeb presennol ddod i ben, a holwch a oes angen gwaith cyfreithiol. Os oes, bydd dechrau’n gynnar yn rhoi mwy o amser i’ch cyfreithiwr baratoi ar gyfer y newid rydych wedi’i gynllunio.
Gwirio eich hunaniaeth a’ch blaendal
Bydd eich cyfreithiwr yn gofyn am brawf o’ch hunaniaeth a’ch cyfeiriad, a thystiolaeth o ble y daw’r arian ar gyfer eich pryniant. Mae’r gwiriadau hyn i atal gwyngalchu arian yn rhan arferol o’r broses.
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd angen i chi ddarparu cyfriflenni banc, tystiolaeth o gynilion neu ddogfennau etifeddiaeth. Os yw aelod o’ch teulu yn helpu gyda’ch blaendal, efallai y bydd angen i’ch cyfreithiwr wirio ei hunaniaeth a ffynhonnell yr arian hefyd.
Gofynnwch yn gynnar beth sydd ei angen, gan y gall casglu dogfennau ategol gymryd amser.
Ffurflenni gwybodaeth am eiddo wedi’u diweddaru
Os ydych yn gwerthu, gofynnir i chi lenwi ffurflen gwybodaeth am eiddo, a elwir fel arfer yn ffurflen TA6. Daeth y chweched argraffiad yn orfodol o 30 Mawrth 2026 ar gyfer cyfarwyddiadau newydd a gaiff eu trin gan gwmnïau sy’n rhan o’r Cynllun Ansawdd Trawsgludo (CQS).
Bydd eich cyfreithiwr yn darparu’r ffurflenni priodol ac yn esbonio beth sydd angen i chi ei wneud. Cymerwch amser i ateb yn gywir ac i gasglu dogfennau ategol, a gofynnwch am help os ydych yn ansicr am gwestiwn. Rhowch wybod i’ch cyfreithiwr os bydd unrhyw beth yn newid ar ôl i chi lenwi’r ffurflenni.
Cyllidebu ar gyfer treth eiddo yng Nghymru
Wrth brynu eiddo yng Nghymru, y dreth eiddo berthnasol yw Treth Trafodiadau Tir (TTT). Mae’r swm sy’n daladwy yn dibynnu ar y pris prynu a’ch amgylchiadau, gan gynnwys a yw cyfraddau uwch yn berthnasol.
Gofynnwch i’ch cyfreithiwr esbonio’r swm tebygol ar y dechrau, fel y gallwch ei gynnwys yn eich cyllideb ochr yn ochr â ffioedd cyfreithiol, costau chwiliadau, costau arolwg a chostau symud.
Gall cyfrifiannell TTT Awdurdod Cyllid Cymru eich helpu i amcangyfrif y dreth, ond dylai eich cyfreithiwr wirio sut mae’r rheolau’n berthnasol i’ch pryniant.
Gwiriadau ychwanegol wrth brynu neu werthu fflat
Mae eiddo lesddaliadol yn aml yn golygu gwaith papur ychwanegol, gan gynnwys gwybodaeth am y brydles, taliadau gwasanaeth, yswiriant yr adeilad a gwaith arfaethedig. Efallai y bydd angen dogfennau gan y rhydd-ddeiliad neu’r asiant rheoli ar eich cyfreithiwr, a gall gymryd amser i’w cael.
Gall diogelwch adeiladau hefyd effeithio ar werthiant neu ailforgais. Yn dibynnu ar yr adeilad a gofynion y benthyciwr, efallai y bydd angen gwybodaeth am ddiogelwch tân neu asesiad EWS1 o’r waliau allanol. Gall eich cyfreithiwr esbonio pa wiriadau sy’n berthnasol i’ch eiddo.
Os ydych yn gwerthu fflat, trafodwch unrhyw broblemau diogelwch hysbys sy’n ymwneud â’r adeilad gyda’ch cyfreithiwr ar y dechrau.
Ffyrdd ymarferol o helpu’r broses i symud ymlaen
- Dychwelwch ffurflenni a’r dogfennau y gofynnwyd amdanynt yn brydlon, gan wirio bod y wybodaeth yn gywir.
- Rhowch wybod i’ch cyfreithiwr am unrhyw flaendal sy’n rhodd, unrhyw werthiant neu bryniant cysylltiedig, neu unrhyw derfyn amser ar gyfer eich morgais.
- Gofynnwch pwy fydd yn trin eich achos a sut y byddwch yn cael diweddariadau.
- Gwiriwch fod eich cyfreithiwr yn gallu gweithredu ar ran y benthyciwr morgais rydych wedi’i ddewis.
- Cadwch mewn cysylltiad a gofynnwch gwestiynau pan fyddwch yn ansicr am y cam nesaf.
Cymorth gyda’ch cam nesaf
Gall ein tîm Trawsgludo Preswyl eich arwain drwy’r broses o brynu, gwerthu neu ailforgeisio eich cartref yng Nghymru. Cysylltwch â ni i drafod eich cynlluniau, deall y costau tebygol a chael gwybod sut i ddechrau.