Cymraeg
Amdanom ni
Mae HardingEvans yn gwmni cyfreithiol rhanbarthol sydd wedi’i sefydlu ers tro. Mae’n darparu amrywiaeth arbenigol o wasanaethau cyfreithiol i gleientiaid masnachol a phreifat. Mae gan y cwmni 110 o staff gan gynnwys 10 partner a 70 o enillwyr ffi.
Mae gwreiddiau’r cwmni yng Nghasnewydd, De Cymru, ac rydym wedi ymestyn yn sylweddol dros y blynyddoedd diweddar a dod yn gwmni mwyaf yng Ngwent a’r 8fed mwyaf yng Nghymru.
Rydym yn cystadlu â chwmnïau mawr Caerdydd.
Enillodd HardingEvans nifer o wobrau dros y blynyddoedd gan gynnwys Gwobr am Gyflawniad Eithriadol a Busnes y Flwyddyn yng Ngwobrau nodedig Siambr Busnes De Cymru a Chwmni Cyfreithiol y Flwyddyn yng Ngwobrau Gyfraith Cymru Y Western Mail, lle’r enwyd Ken Thomas yn Gyfreithiwr y Flwyddyn.
Mae gan HardingEvans Farciau Ansawdd am Gymorth Arbenigol mewn 10 o’u meysydd gwasanaeth
HardingEvans yw un o’r ychydig gwmnïau yng Nghymru sydd yn dal ac yn cynnal y nifer uchel o Farciau Ansawdd.
Ni yw’r unig gwmni yng Ngwent sydd yn y 10 uchaf o gwmnïau yng Nghymru, a’n bwriad yw parhau i wella ein proffil fel cwmni masnachol, ynghyd â pharhau i ddarparu gwasanaeth cyfreithiol o safon uchel i’n rhestr o gleientiaid preifat.
SIARADWYR CYMRAEG/ Welsh Speakers
|
Sara Haf Uren - Cyfreithwraig
Mae Sara yn wreiddiol o Port Talbot ac yn arbennigo mewn esgeulustra meddygol.
|
|
Pauline Kent - Partner
Mae Pauline yn wreiddiol o Lloegr ac yn arbennigo mewn anafiadau personol ac esgeulustra meddygol.
|
|
Wyn Williams - Partner
Mae Wyn yn wreiddiol o Aberaeron ac yn arbennigo mewn prynu a gwerthu tai a materion amaethyddol.
|
|
Leah Gwyn Rhydderch - Cyfreithwraig
Mae Leah yn wreiddiol o Ben Llŷn ac yn arbennigo mewn cyfraith teulu.
|
|
|